Datganiad rheoleiddio 026.1: Cadw rhannau ar gerbydau ar ddiwedd eu hoes er mwyn eu hailddefnyddio
Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 31 Mawrth 2029 a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu'r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os byddwn o’r farn bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Rhaid i gerbydau diwedd oes heb eu dadlygru gael eu storio a'u dadlygru ar wyneb anhydraidd gyda system ddraenio sydd wedi'i selio. Ar ôl dadlygru caniateir eu storio ar lawr caled cyn iddynt gael eu darnio a/neu eu malu.
Os byddwch yn cydymffurfio â'r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn, gallwch storio sioc laddwyr cyfan a bagiau aer nas defnyddiwyd mewn cerbydau diwedd oes sydd fel arall wedi'u dadlygru'n llawn ar lawr caled nes iddynt gael eu tynnu fel rhannau ail-law.
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Efallai y bydd angen trwyddedau neu ganiatadau eraill arnoch o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych yn eu cyflawni.
Nid yw’r datganiad rheoleiddio hwn ond yn berthnasol:
- i gerbydau diwedd oes a dderbynnir o dan ac yn unol â thrwydded amgylcheddol
- pan fo’r cerbyd diwedd oes yn cael ei storio hyd nes y gellir ailddefnyddio'r sioc laddwyr neu'r bagiau aer
- os nad yw'r sioc laddwyr wedi'u difrodi, nad ydynt yn gollwng olew ac yn addas i'w hailddefnyddio
- os nad yw'r bagiau aer wedi'u difrodi neu wedi'u defnyddio a’u bod yn addas i'w hailddefnyddio
- i gerbyd diwedd oes sydd wedi'i ddadlygru'n llwyr, ac eithrio'r sioc laddwyr neu'r bagiau aer (neu'r ddau)
Ystyr ‘wedi’i ddadlygru’n llwyr’ yw:
- bod batris a thanciau nwy hylifol wedi cael eu tynnu
- bod cydrannau sydd â’r potensial i fod yn ffrwydrol wedi cael eu tynnu neu eu niwtraleiddio
- eich bod wedi tynnu, casglu a storio: tanwydd, olew modur, olew trawsyrru, olew blwch gêr, olew hydrolig, hylifau oeri, gwrthrewydd, hylifau brêc, hylifau a nwyon y system aerdymheru ac unrhyw hylif arall yn y cerbyd diwedd oes, oni bai bod angen yr eitemau hyn ar gyfer ailddefnyddio rhannau
- bod yr holl gydrannau sy'n cynnwys mercwri wedi cael ei thynnu, pan fo modd
Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid ichi beidio â gwneud y canlynol:
- anfon cerbydau diwedd oes i'w malu a/neu eu darnio oni bai eu bod wedi cael eu dadlygru'n llwyr
- difrodi neu atal ailddefnyddio bagiau aer neu sioc laddwyr
Mae'n rhaid i chi:
- storio cerbydau diwedd oes sydd wedi'u dadlygru'n llwyr yn unig, ar lawr caled ac eithrio sioc laddwyr cyfan neu fagiau aer heb eu defnyddio (neu'r ddau)
- cydymffurfio â'r holl amodau eraill yn eich trwydded amgylcheddol
- cadw cofnodion am 2 flynedd sy'n dangos eich bod wedi cydymffurfio â'r datganiad rheoleiddio hwn - rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais
Gorfodi
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gydymffurfio â'ch trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan fyddwch chi'n cadw rhannau ar gerbydau diwedd oes i'w hailddefnyddio.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â'r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni'r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, rhaid i'ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio ag:
- achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
- achosi niwsans drwy arwain at sŵn neu arogleuon
- effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig