Defnyddio prawf DNA amgylcheddol at ddibenion trwyddedu madfallod dŵr cribog

Mae’r canllaw hwn yn diweddaru safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghylch defnyddio DNA amgylcheddol (eDNA) fel techneg arolygu ar gyfer madfallod dŵr cribog. Nid yw’n newid unrhyw argymhellion yn ymwneud â defnyddio dulliau arolygu ‘traddodiadol’ eraill a allai fod yn ofynnol hefyd i gynorthwyo’r broses o ddod i gasgliadau. Felly, dylai strategaethau arolygu cyffredinol ddilyn y canllawiau presennol sydd wedi’u cyhoeddi (Canllawiau Lliniaru ar gyfer Madfallod Dŵr Cribog, 2001) ac ymgorffori unrhyw nodiadau canllaw sy’n benodol i ddulliau ychwanegol a gyhoeddir gan gyrff cyhoeddus perthnasol.

Canllawiau CNC

Mae CNC yn derbyn canlyniadau profion eDNA fel tystiolaeth o bresenoldeb madfallod dŵr cribog i gefnogi ein hasesiad o geisiadau am drwyddedau neu geisiadau cynllunio. Fodd bynnag, efallai na fydd y dechneg hon ar ei phen ei hun yn addas at ddibenion dangos tystiolaeth o absenoldeb madfallod dŵr cribog ym mhob amgylchiad. Nid yw defnyddio arolygon eDNA yn ofyniad gorfodol ar gyfer unrhyw gais.

Wrth ddefnyddio technegau arolwg eDNA i gefnogi cais cynllunio neu gais am drwydded, rydym yn eich cynghori i ystyried y canlynol:

1. Cydnabyddir bod defnyddio eDNA yn un o sawl techneg arolygu derbyniol ar gyfer madfallod dŵr cribog. Byddwn yn derbyn defnyddio’r dechneg hon os cymerir samplau yn unol, yn llwyr, â’r canllawiau hyn, ynghyd â chyfarwyddiadau’r pecyn profi penodol. Rydym yn cynghori bod pob sampl yn cael ei chasglu gan syrfewyr madfallod dŵr cribog profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n addas yn unol â phrotocolau bioddiogelwch.

2. Gall y dechneg eDNA gynhyrchu canlyniadau positif anghywir a negatif anghywir weithiau oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys dirywiad amgylcheddol neu halogi. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai dim ond am hyd at dair wythnos y gellir canfod eDNA yn y dŵr gan fod ffactorau amgylcheddol megis golau UV yn diraddio DNA. Oherwydd niferoedd is neu absenoldeb madfallod dŵr llawndwf mewn cyrff dŵr ar adegau eraill, rydym yn ystyried bod risg uwch o ganlyniadau negatif anghywir ar gyfer samplau a gesglir y tu allan i’r cyfnod hwn. Felly:

  • Ar hyn o bryd mae CNC yn argymell cynnal gwaith samplu eDNA rhwng 15 Ebrill a 30 Mehefin.(Mae CNC yn adolygu’n weithredol y cyfnod a argymhellir ar gyfer samplu eDNA yn seiliedig ar ganlyniadau monitro poblogaeth Cymru).
  • Ni fydd canlyniadau negatif o samplau eDNA a gymerir y tu allan i’r cyfnod rhwng 15 Ebrill a 30 Mehefin fel arfer yn cael eu derbyn i gadarnhau absenoldeb madfallod dŵr cribog ar eu pen eu hunain, a bydd angen arolygon pellach gan ddefnyddio dulliau arolygu traddodiadol, oni bai bod y gwaith arfaethedig o risg is, h.y. yn cael ei gynnal dros gyfnod byrrach, a bod yr effeithiau bach yn rhai dros dro eu natur.
  • Yn yr un modd, oni bai bod y gwaith arfaethedig o risg is, os ceir canlyniad negatif ar gyfer corff dŵr o fewn 500 metr i gofnod hysbys o fadfallod dŵr cribog, neu o fewn tirwedd o ddwysedd corff dŵr uchel (h.y. pum pwll neu ragor fesul cilometr sgwâr), bydd angen arolygon pellach gan ddefnyddio methodolegau traddodiadol i ddangos tystiolaeth o absenoldeb madfallod dŵr cribog, ni waeth pryd y cynhaliwyd y gwaith samplu eDNA.
  • Bydd canlyniadau positif o samplau a gymerir y tu allan i’r cyfnod amser gorau posibl yn cael eu derbyn fel rhai sy’n cadarnhau presenoldeb heb arolwg ychwanegol.

3. Ni fydd canlyniadau arolygon eDNA yn darparu asesiadau o helaethrwydd a maint y boblogaeth. Os bydd angen asesiad dosbarth o faint y boblogaeth ar gyfer y datblygiad neu’r prosiect arfaethedig, bydd angen dulliau arolygu traddodiadol, a gynhelir fel arfer yn unol â’r argymhellion cyfredol yn y Canllawiau Lliniaru ar gyfer Madfallod Dŵr Cribog, 2001. Rhaid cynnwys adroddiadau ar dechnegau arolygu traddodiadol gyda’r ddogfennaeth a gyflwynir.

4. Rhaid i adroddiadau ar ganlyniadau eDNA gynnwys yr wybodaeth a bennir yn y rhestr wirio hon, sef:

Cyf. Gofyniad Wedi'i rhoi?
A Datganiadau bod cyngor cyhoeddedig a chyfarwyddiadau penodol i becynnau profi wedi’u dilyn yn llym Ie/Na
B Datganiadau mai dim ond syrfewyr madfallod dŵr cribog trwyddedig neu brofiadol sydd wedi cymryd y samplau Ie/Na
C Copïau o ganlyniadau labordy fel y’u cyflenwyd gan y cwmni dadansoddi Ie/Na
D Gwybodaeth yn manylu’n glir ar yr holl gyrff dŵr y cyfeiriwyd atynt ac a samplwyd Ie/Na
E Dyddiadau y cymerwyd samplau Ie/Na
F Ffigurau perthnasol yr arolwg Ie/Na
G Y canlyniadau (presenoldeb neu absenoldeb) ar ffurf tabl, gan gynnwys gwybodaeth am yr holl gyrff dŵr a arolygwyd, a’r methodolegau samplu a ddefnyddiwyd Ie/Na
H Rhifau / cyfeiriadau cyrff dŵr wedi’u cymhwyso’n gyson drwy gydol y ddogfennaeth a gyflwynwyd. Mae hyn yn cynnwys datganiadau amgylcheddol a chynlluniau rheoli Ie/Na
I Tystiolaeth bod cwmnïau a ddefnyddir ar gyfer dadansoddi eDNA wedi’u hachredu’n addas ac yn dangos lefel foddhaol o berfformiad Ie/Na


5. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn cadw neu’n cael mynediad at bob canlyniad o arolygon eDNA pan gânt eu defnyddio i gefnogi cais am drwydded am o leiaf 12 mis yn dilyn dyddiad dychwelyd y drwydded gyntaf. Bydd y dyddiad hwn yn cael ei nodi ar unrhyw drwydded a roddir.

6. Gellir defnyddio eDNA hefyd ar gyfer arolygon monitro ar ôl datblygu os mai’r unig wybodaeth y mae ei hangen at ddibenion adrodd am drwyddedau yw presenoldeb neu absenoldeb, a chyn belled â bod samplau’n cael eu casglu rhwng 15 Ebrill a 30 Mehefin. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o waith monitro ar ôl datblygu yn gofyn am ymdrech arolygu ychwanegol (e.e. gwybodaeth am doreithrwydd), na all eDNA ar ei ben ei hun ei darparu.

7. Yn ystod unrhyw waith samplu eDNA, dylai syrfewyr fod yn ymwybodol o ffactorau sy’n effeithio ar ganlyniadau negatif anghywir wrth gasglu samplau dŵr, gan gynnwys amodau amgylcheddol megis ansawdd dŵr isel a hirhoedledd / ymddygiad rhywogaethau (sy’n golygu nad yw madfallod dŵr benywaidd o reidrwydd yn bridio bob blwyddyn). O ganlyniad, ni ddylid fel arfer gymryd canlyniad eDNA amhenodol fel canlyniad negatif.

Diweddarwyd ddiwethaf