Taliadau am geisiadau am drwyddedau gweithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodol
Tâl am drwyddedau pwrpasol ar gyfer Gweithfeydd Hylosgi Canolig neu Eneraduron Penodol
Mae’r tâl uwch am drwydded bwrpasol “gymhleth” ar gyfer ceisiadau y mae angen gwaith i fodelu gwasgariad yr allyriadau aer i asesu effaith y gweithgareddau.
Taliadau am drwyddedau pwrpasol cymhleth
Cais newydd: £10,587
Cais newydd ar gyfer gweithgaredd sydd hefyd yn weithgaredd Rhan B: £11,551
Amrywiad gweinyddol: £613 (pan ofynnir amdano gan ddeiliad y drwydded)
Mân amrywiad technegol: £1,465 (amrywiad pan mai ond ychydig iawn o asesu technegol sydd ei angen)
Amrywiad arferol: £6,140
Amrywiad sylweddol: £9,735
Trosglwyddo'r drwydded yn llwyr: £2,204
Trosglwyddo'r drwydded yn rhannol: £3,525
Ildio'r drwydded yn llwyr: £1,496
Ildio'r drwydded yn rhannol: £2,157
Tâl am drwyddedau pwrpasol syml
Cais newydd: £4,145
Cais newydd ar gyfer gweithgaredd sydd hefyd yn weithgaredd Rhan B: £5,109
Amrywiad gweinyddol: £613 (pan ofynnir amdano gan ddeiliad y drwydded)
Mân amrywiad technegol: £1,465 (amrywiad pan mai ond ychydig iawn o asesu technegol sydd ei angen)
Amrywiad arferol: £2,485
Amrywiad sylweddol: £3,355
Trosglwyddo'r drwydded yn llwyr: £2,204
Trosglwyddo'r drwydded yn rhannol: £3,525
Ildio'r drwydded yn llwyr: £1,496
Ildio'r drwydded yn rhannol: £2,157
Taliadau am drwyddedau Gweithfeydd Hylosgi Canolig neu Eneraduron Penodol ar Osodiadau pan fo cysylltiad uniongyrchol rhwng y gweithgareddau
Pan fo’r prif weithgaredd ar y safle yn weithgaredd Rhan A(1) a reoleiddir gan drwydded Gosodiad, bydd y symiau canlynol yn cael eu hychwanegu at y tâl Gosodiad ar gyfer gweithgareddau'r Gwaith Hylosgi Canolig neu'r Generadur Penodol:
- Ar gyfer gosodiad newydd gan gynnwys trwydded bwrpasol ar gyfer Gwaith Hylosgi Canolig / Generadur Penodol – £1,726
- Ar gyfer amrywiad i Drwydded Gosodiad er mwyn ychwanegu trwydded bwrpasol ar gyfer Gwaith Hylosgi Canolig / Generadur Penodol heb unrhyw newidiadau eraill – y tâl annibynnol priodol ar gyfer trwydded Gwaith Hylosgi Canolig / Generadur Penodol o’r rhestrau uchod
- Ar gyfer amrywiad i Drwydded Gosodiad sy’n cynnwys newidiadau i’r drwydded bwrpasol ar gyfer Gwaith Hylosgi Canolig / Generadur Penodol ynghyd â newidiadau eraill – ychwanegwch £1,037 at y tâl i amrywio trwydded Gosodiad
- Ar gyfer amrywiad i Drwydded Gosodiad pan mai ond yr amodau i'r drwydded bwrpasol ar gyfer Gwaith Hylosgi Canolig / Generadur Penodol sy’n cael eu hamrywio – y tâl amrywio priodol o’r rhestrau uchod
- Ni fydd unrhyw dâl am newidiadau i amodau trwydded ar gyfer Gwaith Hylosgi Canolig / Generadur Penodol fel rhan o amrywiad i Drwydded Gosodiad os nad ydynt yn rai technegol.
Ar gyfer unrhyw senario nad yw wedi'i restru uchod, byddwn yn codi'r tâl mwyaf priodol yn seiliedig ar yr uchod.
Taliadau ar gyfer deiliaid presennol Rheolau Safonol yn caniatáu ar gyfer Gwaith Hylosgi Canolig (SR2018 rhif 7) a generaduron penodedig (SR2018 Rhif 1)
Newid i amserlen drwyddedau: £434 (ychwanegu neu dynnu MCPs o'r drwydded)
Ildio'r drwydded: £282