Gwneud cais am drwydded forol band 1
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer yr ymgeiswyr canlynol sydd:
- yn gwybod bod eu gweithgaredd yn gymwys ar gyfer band 1
- yn barod i gyflwyno a thalu am eu cais
Gwiriwch pa fand trwydded forol sydd ei angen arnoch os nad ydych chi’n siŵr.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- paratoi eich cais band 1
- cael cerdyn debyd neu gredyd i dalu’r ffi os ydych chi’n talu ar-lein
Taliadau
Bydd angen i chi dalu £600 ar ôl i chi gyflwyno’r cais.
Gellir talu drwy’r dulliau canlynol:
- cerdyn debyd neu gredyd
- trosglwyddiad banc
Ni fydd eich cais yn cael ei asesu nes bod taliad wedi’i dderbyn.
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- adolygu eich cais i wirio ei fod yn gyflawn
- cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom
- cadarnhau drwy e-bost pan fydd gennym bopeth sydd ei angen arnom i’w asesu
Fel arfer, byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn chwe wythnos.
Mae’r cyfnod chwe wythnos yn dechrau o’r adeg y byddwn yn cadarnhau bod eich cais wedi’i gwblhau. Efallai na fydd yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno.
Diweddarwyd ddiwethaf