Gwneud cais am drwydded forol band 1

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer yr ymgeiswyr canlynol sydd:

  • yn gwybod bod eu gweithgaredd yn gymwys ar gyfer band 1
  • yn barod i gyflwyno a thalu am eu cais

Gwiriwch pa fand trwydded forol sydd ei angen arnoch os nad ydych chi’n siŵr.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

Taliadau

Bydd angen i chi dalu £600 ar ôl i chi gyflwyno’r cais. 

Gellir talu drwy’r dulliau canlynol:

  • cerdyn debyd neu gredyd
  • trosglwyddiad banc

Ni fydd eich cais yn cael ei asesu nes bod taliad wedi’i dderbyn.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • adolygu eich cais i wirio ei fod yn gyflawn
  • cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom
  • cadarnhau drwy e-bost pan fydd gennym bopeth sydd ei angen arnom i’w asesu

Fel arfer, byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn chwe wythnos.

Mae’r cyfnod chwe wythnos yn dechrau o’r adeg y byddwn yn cadarnhau bod eich cais wedi’i gwblhau.  Efallai na fydd yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno.

Diweddarwyd ddiwethaf